1,(2,3),4. O Arglwydd gad im' dy fwynhau, Ac onide 'rwy'n llwfrhau; Pa le ceir imi dan y ne' Un math o gysur yn dy le? Fel dysgwyl y gwyliedydd prudd, O awr i awr, am oleu'r dydd; Felly 'rwyf fi o bryd i bryd Yn dysgwyl am dy wyneb pryd. Rwy'n mofyn yn dy deml lân, Am gael dy weled fel o'r blaen; A bore wawr i d'wynu'n rhad, O bur gynteddau tŷ fy Nhad. Rho imi brawf o'th gariad drud - I'r sawl a fynech dod y byd - Dy gwmni dry, mewn mynyd awr, Y ddaear megys nefoedd fawr. - - - - - O Arglwydd! gâd im' Dy fwynhau Ac onid ê 'r wy'n llwfrhau; Pa le y câf fi dàn y ne' Un math o gysur yn Dy le? Rhy drwm yw'm hofnau i gyd o'r bron, Rhy drwm yw'r cystudd dàn fy mron; Ni wna fy ofnau ond parhau Nes cael Dy wyneb i'w fwynhau. Pe cawn gysuron o bob rhyw O fewn Dy holl greadigaeth wiw, Os cuddio wnai Dy wyneb cu, Mae'n uffern eilwaith arnaf fi. Fel disgwyl y gwyliedydd prudd, O awr i awr, am oleu'r dydd, Ac felly finnau, o bryd i bryd, Sy'n disgwyl am Dy wyneb-pryd.William Williams 1717-91
Tonau [MH 8888]: gwelir: Wrth edrych Iesu ar dy groes Y noeth y tlawd a'r llwythog sy |
O Lord, let me enjoy thee, Otherwise I will lose heart; When is to be found for me under heaven The same kind of comfort in thy place? As waits the sad watchman, From hour to hour, for the light of the day; Thus I am from time to time Waiting for thy countenance. I am asking in thy holy temple, To get to see thee as before; And for a morning dawn to shine freely, From the pure courts of my Father's house. Give me an experience of thy costly love - Give the world to whom you will - Thy company will turn, in a minute, The earth to be like great heaven. - - - - - O Lord, let me enjoy Thee! Otherwise I will lose heart; What place may I get under heaven With the same comfort as in thy place? Too heavy are all my fears altogether, Too heavy is the affliction under my breast; My fears will only endure Until I get Thy face to enjoy. If I get comforts of every kind Within all Thy worthy creation, If Thy dear face were to hide, I would have a second hell. As the sad watchman waits, From hour to hour, for the light of day, And thy I too, from time to time, Am waiting for Thy countenance.tr. 2016,19 Richard B Gillion |
|